The comprehensive resource for vacations and
hotels marketed to the LGBT community








 


 


 

 


HOMEARCHIVEEMAIL US | TRAVEL SECTION

 


Y DEYRNAS UNEDIG (UK)

Plaid Cymru yn Lansio Grŵp LHDT

 

 

LANGUAGE OPTIONS

This article in English.

 

 

 

 
 
■ Bethan Jenkins AC: “Yr ydym yn blaid i bawb ...”
ffotograff cwrteisi Plaid Cymru
 

CAERDADD, Chwefror 23, 2010    Mae Plaid Cymru’r penwythnos hwn wedi lansio mudiad cysylltiol newydd PlaidPride, sef grŵp newydd y blaid i bobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol.

Nod y grŵp yw lledu neges Plaid Cymru i’r gymuned LGBT; estyn allan i aelodau LGBT y blaid a pharhau i ofalu bod polisïau Plaid Cymru yn ymdrin ag anghenion pobl LGBT ar hyd Cymru benbaladr.

Mae gan y Blaid record gref o gefnogi hawliau hoyw.  Pleidleisiodd o blaid partneriaethau sifil, hawliau mabwysiadu i gyplau Lesbiaidd a Hoyw, a phleidleisio dros ddiddymu adran 28.  Mae Plaid Cymru hefyd yn fudiad lle mae dynion a merched Hoyw a Lesbiaidd yn chwarae rhan lawn a gweithredol ar bobl lefel.

Meddai Carl Harris o PlaidPride:  “Mae Plaid yn wastad wedi estyn croeso cynnes i bawb yng Nghymru, yn ddieithriad. Mae’n hen bryd i ganfyddiadau pobl ddal i fyny â’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd.  Yn anffodus, mae gan lawer ganfyddiad cyfeiliornus am y Blaid, a rhan o gylch gorchwyl y grŵp hwn fydd newid hynny.

“Mae Llafur wedi chwythu eu plwc, ac efallai bod y Ceidwadwyr wedi ceisio newid eu lliwiau, ond mae eu record, hyd yn oed yn ddiweddar, yn dangos yn glir mai hwy yw’r bobl olaf i ymddiried ynddynt pan ddaw’n fater o hawliau pobl Hoyw a Lesbiaidd. Plaid bellach yw’r unig rym blaengar yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac y mae gennym record i ymfalchïo ynddi.”

Bu AC Plaid Cymru Bethan Jenkins yn lansio PlaidPride ac meddai:  “Rwyf yn falch iawn ein bod wedi cymryd y cam o lansio PlaidPride er mwyn i ni gyfleu ein neges i fwy o bobl. Mae gan rai pobl ddelwedd o hyd o’r Blaid fel plaid draddodiadol i bobl o gefn gwlad yn unig ac i siaradwyr Cymraeg, ond fu hynny erioed yn wir. Yr ydym yn blaid i bawb, a bydd PlaidPride yn ein helpu i gyfathrebu gyda charfan o’r boblogaeth na chafodd fawr o gysylltiad â Phlaid Cymru yn y gorffennol.”

“Mae record y Blaid ar hawliau LGBT gystal ag unrhyw blaid arall yn y DG. Pleidleisiodd ASau Plaid dros oedran cydsynio cyfartal, o blaid partneriaethau sifil a thros ddiddymu adran 28. Yr ydym yn blaid flaengar sydd yn wastad wedi credu mewn hawliau cyfartal i bawb beth bynnag fo’u hil, crefydd, rhyw neu dueddiad rhywiol. Yn wahanol i Geidwadwyr David Cameron, yr ydym wedi bod yn ymroddedig yn wastad i Hawliau Hoyw, ac yr ydym yn falch o’n record.”

 

 

CLICIWCH YMA I TUDALEN ARGRAFFU



Seed Newsvine
 


     

Creative Commons License
This work is licensed under a Creative Commons Licence.  

Posted: 24 Feb 2010 at 12:00 (UK time)

   
             
       

Fasthosts powered web hosting